Cylch Cerrig Blaenau

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Blaenau
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Cylch o feini hirion yn ne-ddwyrain Powys yw cylch cerrig Blaenau. Fe'i lleolir yn y bryniau ger Y Gelli Gandryll yn ardal Brycheiniog. Cyfeirnod AO: (map 161) SO239373.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Rhan o gylch cerrig Blaenau.

Credir fod y cylch cerrig hwn yn dyddio o ddiwedd y 3ydd fileniwm CC, sef dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma dechrau'r cyfnod a elwir yn Oes yr Efydd.

Dim ond yn ddiweddar y darganfuwyd y cylch cyfan gan archaeolegwyr gan fod y rhan fwyaf o'r cerrig gwreiddiol wedi suddo i'r pridd. Mae'n mesur 29.8 metr ar draws. Mae'r garreg fwyaf yn mesur 1.5 metr gyda lled o 1.1 metr.

Mynediad[golygu | golygu cod]

Gellir cyrraedd y cylch cerrig o'r Gelli Gandryll trwy ddilyn y ffordd B4350. Ceir maes parcio gerllaw. Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd heb dal trwy'r flwyddyn.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO/Cadw, 1999), tud. 48-49.