Beltany

Oddi ar Wicipedia
Beltany
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRaphoe Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau54.850919°N 7.599622°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethcofadail cenedlaethol Iwerddon Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir cylch cerrig Beltany ger pentref Raphoe yn Swydd Donegal, Iwerddon. Mae'n dyddio o ddiwedd Oes y Cerrig neu Oes yr Efydd.

Codwyd y cylch tua 1400-800CC ac mae'n cynnwys 64 carreg wedi'u trefnu mewn cylch o gwmpas twmpath isel (tumulus) ar gopa bryn Tops Hill. Arddurnir un o'r cerrig gyda "marciau cwpan" - addurn a welir ar sawl maen hir megalithig. Credir y bu tua 80 o gerrig yn y cylch yn wreiddiol ond aflonyddwyd y safle tua chan mlynedd yn ôl.

Rhan o gylch cerrig Beltany.

Mae'n debyg fod yr enw Beltany yn amrywiad ar Beltane, yr hen ŵyl Geltaidd a ddethlid ar Galan Mai.

Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.