Long Meg

Oddi ar Wicipedia
Long Meg
Yr olygfa o'r dwyrain
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHunsonby Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.7284°N 2.66935°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Cylch cerrig o'r Oes Efydd ydy Long Meg neu Long Meg a'i Merched (ac weithiau Cylch Cerrig Maughanby. Mae wedi'i lleoli ger Penrith, Cumbria. Dyma'r chweched cylch mwyaf yn y rhan hon o Ogledd-orllewin Ewrop. Mae'n un o 1,300 o gylchoedd tebyg yng ngwledydd Prydain a Llydaw ac yn rhan o draddodiad megalithig a barodd rhwng 3,300 C.C. a 900 C.C. Hynny yw, ar ddiwedd Oes Newydd y Cerrig a'r Oes Efydd Cynnar.

"Long Meg and Her Daughters", ffotograff a gymerwyd am 19:37 ar 14 Mai 2005
Un o'r marciau 'Cup and Ring' ar garreg.

Mae yma 51 arreg: 27 ohonyn nhw'n parhau'n fertig ac yn sefyll ac ar ffurf ofal sy'n 100m yn ei anterth. Yn wreiddiol, credir y byddai cymaint â 70 carreg. Daw'r enw o un garreg tywodfaen goch, enfawr (3.6m o uchder). Ceir arni enghreifftiau o waith celf wedi'u cerfio arni: gydag esiamplau o farciau "cwpan a soser" (Saesneg: cup and ring"), sbeiral a chylchoedd consentrig.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]