Cylch Brodgar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cylch Brodgar

Henge a chylch cerrig ar Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Cylch Brodgar (Saesneg: Ring of Brodgar). Saif ar y brif ynys, Mainland.

Credir fod y cylch cerrig yn dyddio o rhwng 2500 CC a 2000 CC. Mae 36 maen yn weddill o'r 60 oedd yn ffurfio'r cylch yn wreiddiol.

Gyda Maes Howe, Meini Stenness a Skara Brae, mae Cylch Brodgar yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.

Dolennau allanol[golygu]

Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato