Sgwrs:Cylch cerrig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Does na ddim categori ar gylchoedd cerrig yng Nghymru ar Wiki! Gweler:

http://en.wikipedia.org/wiki/Category:Stone_circles_in_the_United_Kingdom

Beth ydy'r gair Cymraeg am "ignorant"? Llywelyn2000 20:27, 30 Awst 2010 (UTC)[ateb]

"Anwybodus" efallai? Neu jest "typical"? Yn ffodus ceir mwy o barch i Gymru ar Gomin! Anatiomaros 21:48, 30 Awst 2010 (UTC)[ateb]
A, wel! Dyna fi wedi creu un. Mil gwell gen i dreulio fy amser ar yr hen Wici na'r llall, ond roedd y demtasiwn yn ormod! Llywelyn2000 01:08, 31 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Da iawn! Dwi wedi rhoi'r ddolen ryngwici ar ein categori ni. Hen le rhyfedd ydy 'en', ynte? Dwi heb gyfrannu yno o gwbl ers misoedd rwan - ar wahan i ambell gyfraniad IP megis dywigio "Monmouthshire, South Wales, United Kingdom" i "Monmouthsire, Wales"! Piti mewn ffordd am fod angen gwrthsefyll yr holl anwybodaeth a rhagfarn sydd yno gan yr arch-Brydeinwyr, ond dyna fo; fedra rhywun ddim gwneud popeth. Anatiomaros 15:31, 31 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Cyfesurynnau anghywir[golygu cod]

Shwmae, Llywelyn. Mae'n rhaid imi ofyn - a yw'r cyfesurynnau'n gywir? Oherwydd wrth imi glicio ar y (hen) map, ac edrych ar Meini hirion Bryn Gwyn, roedd yr hen gyfesurynnau'n nodi rhywle ar lan y môr. Bellach mae'r cyfesurynnau a roddir gennyf yn nodi'r lle cywir. Mae hwn wedi digwydd sawl gwaith imi nawr, felly, a oes angen ailedrych ar y cyfesurynnau? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:08, 29 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]