Calanais

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cylch cerrig Callanish I

Cylch cerrig cynhanesyddol gydag elfennau megalithig eraill ynghwm, ar ynys Leòdhas yn Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban yw Calanais, Clachan Chalanais neu Tursachan Chalanais (Saesneg Callanish).

Credir i'r safle gael ei hadeiladu rhwng 2900 a 2600 CC, er fod efallai rai elfennau cyn 3000 CC. Ymddengys i'r defnydd o'r safle ddod i ben rhwng 2000 CC a 1700 CC. Y brif elfen yw cylch cerrig a elwir yn Callanish 1 gan archaeolegwyr, gyda 13 o feini yn ffurfio cylch tua 13 medr ar draws. Mae uchder y meini rhwng 1 m a 5 m , 4 m ar gyfartaledd. Ceir beddrod dan garnedd yma hefyd.