Carnedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Carnedd o Oes yr Efydd ar gopa Drosgl yn y Carneddau.

Carnedd neu garn yw'r enw a roddir ar bentwr o gerrig wedi ei godi i nodi mangre arbennig. Fe'i ceir fel rheol ar yr ucheldiroedd, yn arbennig ar gopaon mynyddoedd.

Ceir nifer o wahanol fathau o garneddi. Mae cryn nifer o garneddi Cymru yn dyddio o Oes yr Efydd, a cheir claddedigaethau tu mewn iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau gorau o'r math yma mae Bryn Cader Faner a'r tair carnedd fawr ar gopa Foel Drygarn. Ceir tystiolaeth i'r arfer o gladdu cyrff dan bentwr o gerrig yng Nghymru barhau i'r cyfnod Rhufeinig ac wedyn. Gall carnedd hefyd fod yn llawer mwy diweddar, wedi ei hadeiladu i nodi'r fan uchaf ar gopa mynydd neu fryn, neu i nodi llwybr. Y garnedd fwyaf yng Nghymru - a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain - yw'r Gop. Ceir "carnedd" neu "garn" fel elfen yn enw mynyddoedd, er enghraifft Carnedd Llywelyn a Carnedd Dafydd, a roddodd ei enw i fynyddoedd y Carneddau. Yr hen enw ar fynydd Elidir Fawr oedd "Carnedd Elidir".

Mathau o garneddi[golygu]