Bryn Cader Faner

Oddi ar Wicipedia
Bryn Cader Faner
Mathsafle archaeolegol, carnedd gron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.898234°N 4.011337°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH647353, SH6479035290 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME061 Edit this on Wikidata

Carnedd gron sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd ydy Bryn Cader-Faner, i'r dwyrain o gymuned Talsarnau, Gwynedd; cyfeiriad grid SH647353, ac i'r gogledd o Lyn Eiddew Bach a Llyn Eiddew Mawr yn y Rhinogau. Mae'n un o'r hynafiaethau mwyaf adnabyddus o'r cyfnod hwn yng Nghymru. Saif ar fryn isel o'r un enw.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Bryn Cader Faner yng nghanol y gwastatir.
Coron holl gylchoedd cerrig Cymru.

Ei phwrpas, mae'n debyg, oedd bod yn rhan o seremoniau neu ddefodau crefyddol a oedd yn ymwneud â chladdu'r meirw. Ni ddylid cymysgu'r garnedd gron gyda'r garnedd gylchog sy'n fath cwbwl wahanol i garnedd, ac nid yw chwaith yn gylch cerrig. Mae'n mesur tua 8m ar draws, gyda meini mwy wedi eu gosod ar ongl ar hyd yr ochrau. Difrodwyd rhan o'r heneb hon gan y fyddin pan oeddent yn ymarfer cyn yr Ail Ryfel Byd.

Saif ar hen lwybr o Oes yr Efydd, ac mae nifer o hynafiaethau eraill gerllaw, gan gynnwys olion cytiau, cylchoedd cerrig a meini hirion. Gellir cyrraedd yma trwy ddilyn y briffordd A496 tua'r de heibio Talsarnau, troi i'r chwith lle mae arwydd Gwesty Maes y Neuadd, cadw i'r chwith pan mae'r ffordd yma'n fforchio ac yna cymryd y tröad nesaf i'r dde a pharcio ym mhen draw'r ffordd. Gellir wedyn dilyn y trac tua Llyn Eiddew Bach, ond cadw'n syth ymlaen pan mae'r trac yma'n troi i'r dde wedi mynd trwy'r trydydd giât. Mae'r llwybr yma yn awr yn dilyn llinell yr hen drac o Oes yr Efydd, ac yn mynd heibio Bryn Cader Faner a welir ar y dde ymhen tipyn.

Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME061.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)