Cylchoedd cerrig Senegambia

Oddi ar Wicipedia
Cylchoedd cerrig Senegambia
Daearyddiaeth
GwladBaner Senegal Senegal
Baner Y Gambia Y Gambia
Arwynebedd9.85 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.691111°N 15.5225°W Edit this on Wikidata
Map

Cylchoedd cerrig o'r cyfnod hanesyddol yw Cylchoedd cerrig Senegambia a leolir yn rhanbarth Senegambia, sef Senegal a'r Gambia, yng ngorllewin Affrica. Cerrig fwlcanig a geir yn y rhan fwyaf o'r cylchoedd hyn, a geir mewn grwpiau ar ddwy ochr y ffin rhwng Senegal a'r Gambia.

Yn 2006 rhoddwyd y safleoedd hyn, sy'n unigryw yn Affrica, ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Mae'r cylchoedd cerrig yn dyddio o'r cyfnod rhwng yr 2il ganrif a'r 16g OC ac felly'n fwy diweddar o gryn dipyn na'r cylchoedd cerrig a'r meini hirion yn Ewrop, sy'n perthyn i gyfnod Oes yr Efydd yn bennaf, sef tua'r 2il fileniwm CC. Ond codwyd y cynharaf o gylchoedd Senegambia mewn cyfnod yn hanes Gorllewin Affrica sy'n cyfateb i'r cyfnod megalithig yn Ewrop.

Mae cloddio gan archaeolegwyr yn dangos i'r safleoedd hyn gael eu hadeiladu ar wahanol adegau gan sawl grŵp ethnig yn yr ardal. Claddfeydd brenhinol ydynt. Byddai penaethiaid yn cael eu claddu ynddynt gyda'u hanifeiliaid cyfarwydd, bwyd a diod mewn desglau crochenwaith, gemwaith ac addurniadau a phethau eraill i'w defnyddio ganddynt yn yr Ôl-Fywyd, yn cynnwys gweision mewn rhai achosion.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]