Y Gambia

Oddi ar Wicipedia
Y Gambia
ArwyddairProgress, Peace, Prosperity Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Gambia Edit this on Wikidata
Lb-Gambia.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Gambia.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-গাম্বিয়া.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-غامبيا.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasBanjul Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,639,916 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1965 Edit this on Wikidata
AnthemFor The Gambia Our Homeland Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAdama Barrow Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, Africa/Banjul Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Gambia Y Gambia
Arwynebedd11,300 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSenegal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.5°N 15.5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol y Gambia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd y Gambia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAdama Barrow Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd y Gambia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAdama Barrow Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$2,038 million, $2,273 million Edit this on Wikidata
Ariandalasi Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.717 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.5 Edit this on Wikidata

Gwlad fechan ar arfordir Gorllewin Affrica yw Y Gambia (Gweriniaeth y Gambia yn swyddogol). Mae'r Gambia wedi'i hamgylchu yn gyfangwbl gan Senegal a hi yw'r wlad leiaf ar dir mawr Affrica.[1] Llain o dir ar hyd glannau Afon Gambia yw'r wlad; afon a roddodd ei henw i'r wlad. Mae'r Gambia wedi'i hamgylchynu gan Senegal, heblaw am ei harfordir gorllewinol sy'n ffinio ar Gefnfor yr Iwerydd. Arwynebedd y wlad yw 10,689km² ac mae ei phoblogaeth oddeutu 2,639,916 (2021)[2].

Banjul yw prifddinas Gambia a hi yw ardal fetropolitan fwyaf y wlad.[3] Ffermio, pysgota a thwristiaeth sy'n dominyddu economi'r Gambia. Yn 2015, roedd 48.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Mewn ardaloedd gwledig, mae tlodi hyd yn oed gryn dipyn yn uwch: 70%.

Mae'r Gambia yn debyg i lawer o genhedloedd eraill yng Ngorllewin Affrica yn y fasnach gaethweision, a oedd y ffactor allweddol wrth sefydlu a chadw cytref ar Afon Gambia, yn gyntaf gan Bortiwgal, pan gelwid yr ardal yn "A Gâmbia". Yn ddiweddarach, ar 25 Mai 1765, gwnaed y Gambia yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig pan gymerodd lywodraeth 'Prydain Far' reolaeth ohoni'n ffurfiol, gan sefydlu 'Gwladfa ac Amddiffynfa Gambia' (Gambia Colony and Protectorate).

Ym 1965, enillodd y Gambia annibyniaeth o dan arweinyddiaeth Dawda Jawara, a fu'n arweinydd ar y wlad nes i Yahya Jammeh gipio grym mewn coup di-drais yn 1994. Daeth Adama Barrow yn drydydd arlywydd Gambia yn Ionawr 2017, ar ôl trechu Jammeh yn etholiadau Rhagfyr 2016.[4] Derbyniodd Jammeh canlyniad yr etholiad, i ddechrau, yna gwrthododd eu derbyn, a sbardunodd argyfwng cyfansoddiadol ac ymyrraeth filwrol gan 'Gymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica', gan arwain at alltudiaeth Jammeh.[5][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hoare, Ben. (2002) The Kingfisher A-Z Encyclopedia, Kingfisher Publications. tud. 11. ISBN 0-7534-5569-2.
  2. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL?locations=GM.
  3. "Banjul | national capital, The Gambia". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 7 Ebrill 2020.
  4. Wiseman, John A. (2004) Africa South of the Sahara 2004 (33rd edition): The Gambia: Recent History, Europa Publications Ltd. p. 456.
  5. Maclean, Ruth (21 Ionawr 2017). "Yahya Jammeh leaves the Gambia after 22 years of rule". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2017. Cyrchwyd 17 Mai 2017.
  6. "Gambia's Yayah Jammeh confirms he will step down". Al Jazeera. 20 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Ionawr 2017. Cyrchwyd 21 Ionawr 2017.