Llanfairfechan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 53°15′11″N 3°58′23″W / 53.253°N 3.973°W / 53.253; -3.973

Llanfairfechan
Boating Pool, Llanfairfechan - geograph.org.uk - 241999.jpg
Llanfairfechan o'r Pwll Cychod
Llanfairfechan is located in Conwy
Llanfairfechan

Llanfairfechan Conwy
Poblogaeth 3,755 
Sir Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANFAIRFECHAN
Cod deialu 01248
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy

Tref fach ar arfordir ogleddol Sir Conwy, sy'n gorwedd rhwng Penmaenmawr a Chonwy i'r dwyrain ac Abergwyngregin a dinas Bangor i'r gorllewin, yw Llanfairfechan ("Llanfair" ar lafar yn lleol). Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhedeg yn agos i'r dref, rhyngddi a'r traeth, ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn ogystal. Mae Caerdydd 204.2 km i ffwrdd o Llanfairfechan ac mae Llundain yn 326.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.4 km i ffwrdd.

Mae'r traeth yn gymharol eang ac yn ymestyn hyd Glan-môr Elias a gwarchodfa natur Madryn, ar lan Traeth Lafan, i gyfeiriad y dwyrain. Ceir pwll hwylio cychod, caffi a chyfleusterau eraill yno, ac mae'n boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i gyfeiriaid Tal-y-Fan, Bwlch-y-Ddeufaen a bryniau cyntaf y Carneddau. Llifa Afon Ddu ("Afon Llanfairfechan") i lawr drwy'r pentref o'i tharddle yn y Carneddau i'w haber.

Hanes[golygu]

Llanfairfechan gyda Ynys Seiriol yn y cefndir.
Y 'Valley Road' sy'n arwain i'r bryniau, Llanfairfechan.

Ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Y pwysicaf ohonynt heddiw yw hen fryngaer Dinas, ond roedd amddiffynfa fawr Braich-y-Dinas, ar gopa'r Penmaen-mawr, ymhlith y fwyaf ym Mhrydain ac Iwerddon tan iddi gael ei dinistrio o'r diwedd trwy'r gwaith chwarel ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Fel yn achos Penmaenmawr, tyfodd y dref bresennol fel tref chwarel ithfaen a thref glan môr o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Ar un adeg bu canoedd o ddynion yn gweithio yn chwarel y Penmaen-mawr, ond erbyn heddiw mae'r gwaith chwarel wedi peidio i bob pwrpas ar yr ochr yma i'r mynydd.

Yr iaith Gymraeg[golygu]

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50.4% o boblogaeth y dref y medru'r Gymraeg. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 20.8% ond yn gymharol isel mewn cymhariaeth â lleoedd fel Bethesda, cwta 8 milltir i'r de-orllewin tra'n uwch o gryn dipyn na'r lefel yng ngweddill trefi arfordirol sir Conwy. Ceir y canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 10-14, gyda 70% yn rhugl yn yr iaith.

Ysgolion[golygu]

Mae gan Llanfairfechan ddwy ysgol ddwyieithog, sef

  • yr Ysgol Babanod (plant llai, hyd flwyddyn 2)
  • Ysgol Pant-y-Rhedyn (ysgol gynradd, blwyddyn 3-6).

Gorwedd Ysgol Pant-y-rhedyn yn nhalgylch Ysgol Aberconwy ac Ysgol Y Creuddyn yn sir Conwy ac Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd.

Enwogion[golygu]

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu]

Ymddangosodd y pentref yn y cyfresi teledu canlynol:

Ceid cyfeiriadau rheolaidd at y dref gan Wali Tomos yn y gyfres gomedi C'mon Midffild oherwydd y tebygrwydd rhwng rhan olaf yr enw ('-fechan') a'r gair "rhechan".

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfairfechan (pob oed) (3,637)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfairfechan) (1,646)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfairfechan) (2275)
  
62.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfairfechan) (549)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: