Cylch Cerrig Tan-y-braich

Oddi ar Wicipedia
Cylch cerrig Tan-y-braich, ger Llanfairfechan.

Saif cylch cerrig Tan-y-braich uwchlaw Llanfairfechan, Sir Conwy, rhwng y pentref hwnnw a Bwlch y Ddeufaen.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae llawer iawn o'r cylchoedd hyn yn ymwneud â chladdu gweddillion dynol. Mae'r pridd yn cynnwys lefel uchel o siarcol - sef yr hyn sydd ar ôl wedi i chwi losgi pren neu asgwrn. Gallant hefyd fod yn gysylltiedig â chrefydd yr oes neu gyda'r calendr. Neu efallai fod pob un o'r tri yma'n digwydd yn yr un lle ar yr un pryd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.