Gwaun Bodmin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Cheesewring, un o'r torau sy'n britho tirlun Gwaun Bodmin

Rhosdir carreg gwenithfaen gweddol uchel sy'n gorwedd yng ngogledd-dwyrain Cernyw yw Gwaun Bodmin (Cernyweg: Goen Bren; Saesneg: Bodmin Moor). Mae ganddo arwynebedd o tua 208 km² (80 milltir sgwar) ac yn ddaearegol mae'n dyddio o'r cyfnod Carbonifferaidd.

Mae'r enw Saesneg arno, "Bodmin Moor", yn gymharol ddiweddar; cafodd ei lunio gan yr Arolwg Ordnans yn 1813. Gorwedd tref fechan Bodmin ar gyrion de-orllewinol y waun. Yr enw cynharach yn Saesneg oedd "Fowey Moor", ar ôl Afon Fowey sy'n rhedeg trwy'r ardal. Goen Bren yw'r enw yn Gernyweg.

Mae torau gwenithfaen trawiadol yn codi o'r waun, yn cynnwys creigiau Bron Wennyly (Brown Willy), pwynt uchaf Cernyw (417m, 1368 troedfedd) a Rough Tor (400m, 1313 troedfedd).

Ceir tua mil o ferlod yn pori'r tir uchel a rhai miloedd o wartheg hefyd. Yn yr ardal, ceir 57 o gylchoedd cerrig.


Flag of Cornwall.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato