Llanddewi Brefi
Cyfesurynnau: 52°10′47″N 3°57′24″W / 52.1796°N 3.9568°W
| Llanddewi Brefi | |
Llanddewi Brefi |
|
|
|
|
| Cyfeirnod grid yr AO | SN662553 |
|---|---|
| Prif ardal | Ceredigion |
| Sir seremonïol | Dyfed |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Yr Heddlu | Dyfed-Powys |
| Tân | Canolbarth a Gorllewin Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin | |
- Gweler hefyd Llanddewi.
Pentref bach yng nghanol cefn gwlad Ceredigion a sefydlwyd tua'r chweched ganrif yw Llanddewi Brefi. Fe'i lleolir ar y B4343 tua 4 milltir i'r de o Dregaron yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae tua 500 o bobl yn byw yno.
Gelwir y pentref yn Llanddewi Brefi am ei fod yn sefyll ar lan Afon Brefi, un o ledneintiau Afon Teifi.
Er nad yw'n lle mawr, mae gan Llanddewi Brefi ran bwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cynhaliodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, Synod Brefi yno. Rhoddodd hynny enw'r pentref ac mae eglwys y plwyf, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, yn arddangos cerflun ohono. Fe adeiladwyd yr eglwys ar dwyn, lle dwedir y cafodd y ddaear ei chodi'n wyrthiol dan draed Dewi Sant, er mwyn caniatáu iddo gael ei glywed yn glirach gan y bobl ymgynnulledig.
Hawliodd Llanddewi Brefi sylw'r cyfryngau ar ddechrau'r 2000au yn sgil y rhaglen gomedi Little Britain ar y BBC a'r cymeriad Daffyd (sic), yr unig ddyn hoyw yn y pentref. Am gyfnod, bu nifer o wylwyr y rhaglen yn mynd i'r pentref i gael tynnu llun ger yr arwydd i mewn a chafodd hwnnw ei ddwyn sawl gwaith gan ffans o'r gyfres.
Aberaeron · Aberarth · Aber-banc · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaenporth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfriog · Llandysul · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiwllan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-Garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pont-Siân · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen