Pontrhydfendigaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 52°16′56″N 3°51′46″W / 52.282289°N 3.862837°W / 52.282289; -3.862837

Pontrhydfendigaid
Y bont
Pontrhydfendigaid is located in Ceredigion
Pontrhydfendigaid

Pontrhydfendigaid Ceredigion
Cyfeirnod grid yr AO SN730666
    - Caerdydd 90 mi (140 km) D-Dd 
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost YSTRAD MEURIG
Rhanbarth cod post SY25
Cod deialu 01974
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion
Pontrhydfendigaid
Eglwys Pontrhydfendigaid.

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Pontrhydfendigaid (neu Pont-rhyd-fendigaid). Fe'i adnabyddir ar lafar yn lleol fel Y Bont.

Mae'n gorwedd ar lan Afon Teifi yn agos i'w tharddle ym mryniau Elenydd, canolbarth Cymru. Cymryd y pentref ei enw o hen ryd ar yr afon honno a'r bont a godwyd yno. Mae ar lôn y B4343 rhwng Tregaron i'r de a Phontarfynach i'r gogledd, tua 13 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Tua milltir i'r dwyrain o'r pentref ceir adfeilion Abaty Ystrad Fflur, un o abatai enwocaf Cymru, a sefydlwyd gan y Sistersiaid yn 1164. Roedd yn ganolfan dysg bwysig a chredir i un o fersiynau cynharaf Brut y Tywysogion gael ei lunio yno. Yn ôl traddodiad, claddwyd y bardd Dafydd ap Gwilym yno.

Cynhelir eisteddfod flynyddol ym Mhontrhydfendigaid, sef Eisteddfod Pantyfedwen ("Steddfod Bont"). Yma hefyd ceir Pafiliwn Bont, adeilad amlbwrpas modern lle cynhelir cyngherddau a digwyddiadau eraill.

Credai rhai y seilwyd rhaglen deledu C'mon Midffild! ar glwb pêl-droed Pontrhydfendigaid.[angen ffynhonnell]

Enwogion[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: