Y Borth
Oddi ar Wicipedia
- Am y dref ar Ynys Môn, gweler Porthaethwy
Pentref ar arfordir Bae Ceredigion, 9km i'r gogledd i Aberystwyth, yw Y Borth. Mae ganddi 1463 o drigolion, a 43% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Pentref bach pysgotwyr a morwyr fu'r Borth yn y gorffennol. Mae'r Borth yn dref lan môr boblogaidd yn yr haf erbyn heddiw gyda sawl gwersyll garafanio yn y cylch. I'r dwyrain ceir corsdir eang Cors Fochno ar lan aber Afon Dyfi.
Ar y traeth gellir gweld boncyffion hen goed sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Dyma un rheswm, mae'n debyg, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi dros yr afon i'r gogledd.
Ar un adeg gellid croesi gyda fferi bach o'r Ynys Las i'r gogledd o'r pentref i Aberdyfi dros Afon Dyfi.
Mae gan Y Borth orsaf reilffordd ar Reilffordd y Cambrian.
Aberaeron · Aberarth · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Beulah · Blaenpennal · Blaenplwyf · Y Borth · Bow Street · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cross Inn · Cwm-cou · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Y Faenor · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Gwbert · Henfynyw · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfriog · Llandysul · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penrhyn-coch · Pen-y-Garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Rhydowen · Rhydypennau · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig

