Tre-saith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o Dre-saith neu Draeth-saith

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Tre-saith (hefyd: Tresaith). Fe'i leolir ar lan Bae Ceredigion tua 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberteifi a thua milltir a hanner o Aberporth, i'r gorllewin.

Mae Tre-saith yn gorwedd ym mhlwyf hanesyddol a chymuned gyfoes Penbryn. Cofnodir 'Traeth Saith' fel ffurf arall ar yr enw.[1]

Yn eglwys y plwyf ceir beddrod y nofelydd Allen Raine a fu'n adnabyddus ar droad yr 20fed ganrif am ei nofelau Cymreig a Cheltaidd.[1] Mae'r canwr a'r actor Dewi 'Pws' Morris yn byw yn y pentref.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tud. 89.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.