Aber-banc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yng Ngheredigion yw Aber-banc. Saif ar dro cas ar yr A475 tua 4 milltir i’r dwyraIn i Gastell Newydd Emlyn.

Mae Nant Gwylan ac Afon Cwerchyr yn ymuno ag Afon Cynllo yma ac mae nifer o orchmynion Cadw Coed ar hyd glannau gogledd ddwyreiniol Afon Cynllo. Mae canolbwynt hanesyddol y pentref yn cynnwys tai arbennig wedi eu gwneud o gerrig, yn unigol ac yn dai teras. Mae'r datblygiadau mwy diweddar ar ffurf clwstwr estynedig ar fryn i gyfeiriad y gorllewin allan o'r dyffryn ar hyd yr A475. Mae'r pentref yn cynnwys rhagor na 25 o aneddau. Mae Capel y Methodistiaid yn adeilad rhestredig.

Mae gan y pentref ysgol gynradd sy’n gwasanaethu’r cymunedau cyfagos ym Mhenrhiw-llan a Henllan. Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn feunyddiol. Mae Aber-banc yn dibynnu ar Gastellnewydd Emlyn am wasanaethau beunyddiol ac am ei brif wasanaethau. Mae ar lwybr bysys rhwng Llandysul a Chastellnewydd Emlyn ac mae gwasanaeth bob dydd.