Llanfair Clydogau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan gwledig a chymuned yn ne Ceredigion yw Llanfair Clydogau. Fe'i lleolir ar lôn y B4343 tua 4 milltir i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan.

Saif ar lan ddwyreiniol Afon Teifi gyda bryniau Craig Twrch (1226 troedfedd) a Bryn Brawd (1588 troedfedd) yn gefn iddi i'r dwyrain, ar y ffin â Sir Gaerfyrddin. Mae tair nant Clywedog yn cyfarfod â'i gilydd yno.

Rhed ffordd Rufeinig Sarn Helen o'r gaer Rufeinig yn Llanio i gyffiniau Llanfair Clydogau. Yno, ychydig i'r gorllewin o'r pentref, mae'n fforchio, gydag un fforch yn arwain i'r dwyrain heibio Llanymddyfri a Dolaucothi i Nidum (Castell Nedd), a'r llall yn mynd yn ei blaen i gyfeiriad Caerfyrddin.

Roedd digon o waith plwm ac arian yn yr ardal ar un adeg ond maent wedi pallu ers talwm. Filltir i lawr y lôn i'r de mae pentref bychan Cellan, magwrfa Moses Williams (ganed yno yn 1685) a'r ysgolhaig Griffith John Williams.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Clydogau (pob oed) (634)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Clydogau) (268)
  
43%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Clydogau) (291)
  
45.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfair Clydogau) (120)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013