Afon Teifi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Teifi yn llifo trwy Gors Caron.
Yr hen bont ar afon Teifi, Llechryd.

Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Teifi. Mae'n llifo i Fae Ceredigion gerllaw Aberteifi. Am ran olaf ei chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Mae afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref Ffair-rhos. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio i Abaty Ystrad Fflur mae'n cyrraedd pentref Pontrhydfendigaid ac yna'n troi tua'r de-orllewin gan lifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref Tregaron ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio i Landdewi Brefi, lle mae afon Brefi yn ymuno â hi. Wedyn mae'n mynd drwy Lanfair Clydogau, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder. Ychydig cyn cyrraedd Llandysul mae Afon Cletwr yn ymuno â hi, ac yna mae'n llifo trwy Gastell Newydd Emlyn, Cenarth, a ger Abercuch mae'r Afon Cuch yn ymuno â hi. Wedyn â heibio Cilgerran a Llechryd cyn cyrraedd y môr islaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched â Llechryd.

Un o nodweddion afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am eog yn bennaf, gan ddefnyddio cwrwgl yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.

Gweler hefyd[golygu]