Llanybydder

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tref farchnad hanesyddol a chymuned ar ochr Sir Gaerfyrddin y glannau Afon Teifi, 9 cilometr (5.5 milltir) o Lanbedr Pont Steffan yw Llanybydder. Saif ar y briffordd A485 rhwng Llanbedr a Chaerfyrddin.

Mae'n enwog am ei ffeiriau ceffylau a gynhelir ar y Dydd Iau olaf o bob mis. Mae'r Ffair wedi lleihau cryn dipyn ers yr Ail Ryfel Byd, ond mae'n dal i ddenu gwerthwyr a phrynwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon.

Prif gyflogwr y cylch yw Dunbia (Dungannon Meats), sef lladd-dy a phrosesfa gig, ac mae'n cyflogi hyd at 400 o bobl - y mwyafrif mawr ohonynt yn weithwyr o Wlad Pwyl a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Mae hyn wedi cael cryn ddylanwad ar natur y gymuned leol. Cyn y mewnlifiad hyn, roedd tua 70% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

Mae Cymuned Llanybydder yn cynnwys pentref gwledig Rhydcymerau a leolir 8.5 cilometr (5 milltir) i'r de-ddwyrain, dros Fynydd Llanybydder.

Brodor o'r dref oedd y baledwr dall Dafydd Jones (Dewi Dywyll) (Deio'r Cantwr neu Dewi Medi) (1803-1868).


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill