Aberteifi

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Aberteifi
Ceredigion
Image:CymruCeredigion.png
Image:Smotyn_Coch.gif

Tref farchnad hanesyddol yn ne Ceredigion, ar lôn yr A487 hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de, yw Aberteifi (Saesneg: Cardigan). Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddol Afon Teifi ger aber yr afon honno ym Mae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddol Llandudoch. Mae gan y dref boblogaeth o 4,023 (Cymuned Aberteifi, 2001).

Capel Bethania, Aberteifi, yw un o gapeli pwysicaf y Bedyddwyr yng Nghymru. Lleolir Capel Mount Zion yn y dref hefyd[1][2]

Cynnwys

[golygu] Hanes

Codwyd castell yn Aberteifi tua dechrau'r 12fed ganrif yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir Hen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn 1176 cynhaliodd Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth eisteddfod yn ei lys yno adeg y Nadolig, yr eisteddfod gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188. Arosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi Deheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd 1240 pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell o ddwylo'r Saeson yn 1405.

Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y 18fed ganrif. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd dros 300 o longau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi Cilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd dyddiau'r porthladd ar ben.

[golygu] Enwogion

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Gorsedd Aberteifi

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym 1942 a 1976. Am wybodaeth bellach gweler:

[golygu] Gefeilldref

[golygu] Cysylltiadau allanol

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Gwefan Capel Mount Zion Adalwyd 21-03-2009
  2. [1]
Offer personol