Adpar

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Hen fwrdeistref ar lan ogleddol afon Teifi yng Ngheredigion sydd bellach yn faesdref i Gastell Newydd Emlyn yw Adpar (ceir y ffurf Atpar weithiau hefyd). Mae'n rhan o blwyf a chymuned Llandyfriog, Ceredigion, er bod Castell Newydd Emlyn ei hun, dros yr afon, yn Sir Gaerfyrddin.

Hen enw Adpar oedd Trefhedyn ac roedd yn un o hen fwrdeistrefi Sir Aberteifi. Mae gan Adpar ei le yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg fel cartref i'r argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd yno yn 1718 gan Isaac Carter (m. 1741). Cyhoeddodd Carter ddau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin.

Darfu am Adpar fel bwrdeistref yn 1774 a daeth yn ddiweddarach yn faesdref i Gastell Newydd Emlyn.

Mae Adpar yn gartref i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.

[golygu] Cyfeiriadau


Trefi a phentrefi Ceredigion

Aberaeron | Aberarth | Aberffrwd | Aberporth | Aberteifi | Aberystwyth | Adpar | Alltyblaca | Betws Bledrws | Betws Leucu | Beulah | Blaenplwyf | Y Borth | Bow Street | Bwlch-llan | Capel Bangor | Capel Cynon | Capel Dewi | Caerwedros | Ceinewydd | Ciliau Aeron | Comins Coch | Cross Inn | Dihewyd | Dôl-y-bont | Eglwys Fach | Y Faenor | Felinfach | Y Ferwig | Ffostrasol | Ffos-y-ffin | Ffwrnais | Goginan | Gwbert | Henfynyw | Horeb | Llanafan | Llanarth | Llanbadarn Fawr | Llanbedr Pont Steffan | Llandre | Llandyfriog | Llandysul | Llanddewi Brefi | Llanfair Clydogau | Llanfarian | Llanfihangel y Creuddyn | Llangeitho | Llangoedmor | Llangrannog | Llangwyryfon | Llangybi | Llangynfelyn | Llangynllo | Llanilar | Llan-non | Llanrhystud | Llansantffraid | Llanwenog | Llanwnnen | Llechryd | Lledrod | Llwyndafydd | Mwnt | Nanternis | Penbryn | Penrhyn-coch | Pen-y-Garn | Plwmp | Pontarfynach | Ponterwyd | Pontrhydfendigaid | Pontrhydygroes | Rhydypennau | Swyddffynnon | Tal-y-bont | Tregaron | Trefilan | Tre Taliesin | Troedyraur | Ysbyty Ystwyth | Ystrad Aeron | Ystrad Meurig

Offer personol