Penrhyn-coch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 52°26′20″N 3°59′40″W / 52.43901°N 3.99435°W / 52.43901; -3.99435

Penrhyn-coch
Penrhyn-coch is located in Ceredigion
Penrhyn-coch

Penrhyn-coch Ceredigion
Poblogaeth 1,583 (2009)
Cyfeirnod grid yr AO SN645842
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Rhanbarth cod post SY23
Cod deialu 01970
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Pentref bach ydy Penrhyn-coch yng nghymuned Trefeurig, Ceredigion. Lleolir rhwng yr Afon Stewi a Nant Seilo, yn agos i le maent yn ymuno ag Afon Clarach. Mae'r pentref tua 4½ milltir i'r gogledd ddwyrain o Aberystwyth.

Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol ers yr 1970au, gan i sawl ystad o dai gael eu hadeiladu. Erbyn 2005, roedd 480 o dai a thua 1,037 o drigolion. Cyflogir y rhan helaeth o'r boblogaeth yn Aberystwyth, neu yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth a leolir ar gyrion y pentref. (adnabyddir yn gyffredin gan yr acronym Seisnig, IBERS)

Cyfleusterau[golygu]

Saif Eglwys Sant Ioan yng nghanol y pentref a Horeb, Eglwys y Bedyddwyr ar gyrion y pentref. Mae'r pentref yn cynnwys Neuadd, Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch, clwb Pêl-droed a maes chwarae. Mae hefyd gorsaf betrol a swyddfa bost/siop fechain. Lleolir safle Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Gogerddan ar gyrion y pentref, gyda chyfleusterau picnic a llwybrau troed.

Hanes[golygu]

Mae pentref Penrhyn-coch yn ddatblygiad gymharol ddiweddar. Nid oedd pentref yno yn ystod yr 18fed ganrif, a roedd y tir lle saif y pentref heddiw yn ran o Ystad Gogerddan a oedd yn eiddo i'r teulu Pryse. Dechreuodd y pentref ddatblygu tuag at ddiwedd yr 18fed ganrif, ond ni dyfodd yn sylweddol hyd i'r ystad ddechrau gael ei rannu yn ystod yr 1940au.

Lleolir cofeb yng nghanol y pentref i'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Yn ôl thesis a gyhoeddwyd ym 1939, mae'r garreg cwarts mawr a ddefnyddwyd ar gyfer y gofeb yn faen sefyll hynafol.[1]

Trigolion o nôd[golygu]

Saif man geni bardd yr 14eg ganrif, Dafydd ap Gwilym (Brogynin) gerllaw.[2] Bu'n gartref am gyfnod yn yr 1750au i'r hydrograffwr a'r ysgolhaig Lewis Morris. Mae'r pentref hefyd wedi bod yn gartref i lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, David Jenkins, ers ei blentyndod. Yma y ganed Stephen Jones[angen ffynhonnell], chwarewr rygbi. Mae'r pentref yn gartref i nifer o awduron gan gynnwys Niall Griffiths.

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.