Stephen Jones
Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli a Chymru yw Stephen Michael Jones (ganed 8 Rhagfyr 1977. Mae'n chwarae fel maswr.
Ganed ef yn Aberystwyth. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli yn 1996, gan symud i Scarlets Llanelli pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol. Symudodd i Clermont Auvergne yn 2004, gan ddychwelyd at y Scarlets yn 2006.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn De Affrica yn 1998. Mae wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru na neb heblaw Neil Jenkins.
Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005, yn cynnwys sgorio 14 pwynt yn y fuddugoliaeth dros Ffrainc ym Mharis ac 19 pwynt yn erbyn Iwerddon. Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005, ond Jonny Wilkinson gafodd ei ddewis ar gyfer y gemau prawf, penderfyniad a feirniadwyd gan lawer.
Yn hydref 2006 cyhoeddodd yr hyfforddwr Gareth Jenkins mai ef fyddai'n gapten Cymru yn y gemau'n arwain at Gwpan Rygbi'r Byd yn 2007. Erbyn hyn roedd yn wynebu cystadleuaeth gan James Hook am safle maswr yn y tîm, ac er iddo chwarae rhan ymhob un o'r gemau pan enillwyd y Gamp Lawn eto yn 2008, dim ond yn erbyn Iwerddon y dechreuodd y gêm.