Tre Taliesin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°30′00″N 3°59′00″W / 52.5°N 3.983333°W / 52.5; -3.983333

Tre Taliesin
Tre-taliesin-ceredigion.jpg
Tre Taliesin and Ynys Cynfelyn
Tre-Taliesin is located in Ceredigion
Tre-Taliesin

 Tre-Taliesin yn: Y Deyrnas Unedig
Prif ardal Ceredigion
Gwlad Wales
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Machynlleth
Yr Heddlu  
Tân  
Ambiwlans  
Senedd yr Undeb Ewropeaidd
Senedd y DU Ceredigion
Rhestr llefydd: Y Deyrnas Unedig

Pentref yn ardal Genau'r Glyn, gogledd Ceredigion, yw Tre Taliesin. Lleolir y pentref ar y briffordd A487, tua hanner ffordd rhwng Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain ac Aberystwyth i'r de. Y pentrefi agosaf yw Tal-y-bont i'r de a phentref bychan Llangynfelyn, hanner milltir i'r gorllewin. Mae Tre Taliesin ei hun yn rhan o blwyf a chymuned Llangynfelyn.

Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â'r Taliesin chwedlonol; yn Hanes Taliesin mae Elffin ap Gwyddno yn ei ddarganfod yn hongian mewn basged yng nghored Gwyddno, i'r gogledd-orllewin o Dre Taliesin rhywle rhwng Y Borth ac Aberdyfi.

I'r gorllewin o Dre Taliesin, ar ôl Llangynfelyn, ceir corsdir eang Cors Fochno, sydd â lle amlwg yn y canu darogan Cymraeg ac sy'n gysylltiedig â chwedlau llên gwerin diddorol.

Brodor o'r ardal oedd y llenor ac arbenigwr llên gwerin Evan Isaac. Mae ei gyfrol Yr Hen Gyrnol a brasluniau eraill (1934) yn cynnwys ysgrifau am rai o hen gymeriadau'r ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Tarddiad yr enw [golygu]

Yr hen enw ar y lle oedd "Commins y Dafarn Fach". Oherwydd dylanwad piwritanaidd, parchuswyd yr enw i'r enw presenol. Yn y bryniau tua tri chwarter milltir i'r de-ddwyrain ceir cromlech gynhanesyddol o'r Oes Efydd a adnabyddir fel Bedd Taliesin neu Gwely Taliesin (1815).