Aberarth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Arth yn llifo trwy ganol Aberarth

Pentref bach ar arfordir Ceredigion, tua 3 milltir i'r gogledd o Aberaeron yw Aberarth (neu Aber-arth). Fel yr awgryma ei enw, mae'r pentref yn sefyll ar aber afon Arth lle rhed yr afon honno i Fae Ceredigion. Gellir gyrru drwy Aberarth ar yr A487 o Aberaeron i Lanon. Mae yng nghymuned Dyffryn Arth.

Hanes y pentref[golygu]

Mae arwyddocâd hanesyddol i bentref Aberarth oherwydd sefydlwyd y pentref oddeutu amser goresgyniad y Normaniaid. Cododd y Normaniaid Gastell Allt Craig Arth wrth waered yr afon.

Yn ystod y ddeuddegfed ganrif yr oedd mynaich Sistersiaidd yn defnyddio'r ardal fel porth i fewnforio cerrig baddon o Fryste a ddefnyddiasant i godi mynachlog Ystrad Fflur ar dir a roddwyd iddyn nhw gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth.

Yn honedig, tua hanner milltir i'r de o'r pentref mae bryn sy'n safle i Eglwys Llanddewi Aberarth. Mae'n debyg bod yr eglwys hon ar safle hen eglwys o'r nawfed ganrif. Mae gan yr eglwys bresennol dŵr Normanaidd a'r gweddill wedi ei ailadeiladu ym mil wyth chwe deg.

Ymglymwyd Aberarth yn niwydiant adeiladu llongau cyn mil wyth pum deg, ond mae'r pentref wedi edwino gyda dirywiad y diwydiant.

Daearyddiaeth a natur[golygu]

Yn nwy fil a phump, cafodd llwybr ei gyflawni i gerddwyr ac i feiciau. Mae'r ffordd hon yn cysylltu Aberarth ag Aberaeron, y pentref mwy, cyfagos.

Mae cymuned o adar gwylltion i'w gweld yn yr ardal, ac mae hebogiaid tramor, brain goesgoch, clochdaron y cerrig a'r barcud coch ymhlith y rhywogaethau sydd i'w gweld yno.

Er bod traeth Aberarth yn garegog, mae'r traeth hwn yn boblogaidd gyda brigdonwyr ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn.

Dolenni Allanol[golygu]

Enwogion[golygu]

Ganwyd a magwyd yr Athro Hywel Teifi Edwards a'r addysgwyr Jac L. Williams yn y pentref.