Llanrhystud

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanrhystud

Pentref ar arfordir sir Ceredigion yw Llanrhystud. Saif ar y briffordd A487, rhyw naw milltir i'r de o Aberystwyth.

Llifa Afon Wyre trwy'r pentref ychydig cyn cyrraedd a môr, ac mae Afon Wyre Fach yn ymuno a hi ychydig uwchben y pentref. Gerllaw'r fan lle mae'r ddwy afon yn ymuno, mae Gaer Penrhôs, lle mae olion bryngaer o Oes yr Haearn ac olion castell, a adeiladwyd, efallai gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd yn 1149. Castell mwnt a beili ydyw, yn defnyddio gweddillion yr hen fryngaer fel beili. Roedd Rhys ap Gruffudd (Llansadwrn) yn dal tiroedd yma yn y 14eg ganrif.

Dyddia'r eglwys bresennol, sydd wedi ei chysegru i Sant Rhystud, o'r flwyddyn 1852, ond gellir gweld rhywfaint o olion yr eglwys flaenorol.

Dolenni allanol [golygu]


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato