Abermeurig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan gwledig yn sir Ceredigion yw Abermeurig (weithiau 'Aber-meurig' hefyd). Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan (Llambed).

Llifa Afon Aeron heibio i'r gogledd o'r pentref. Mae'n rhan o gymuned Nancwnlle. Y pentref agosaf yw Llundain-fach, dros yr afon hanner milltir i'r gogledd-orllewin. Caiff ei enw o aber Nant Meurig yn Afon Aeron, ger y pentref.

Enwogion[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.