Cribyn, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°08′20″N 4°09′43″W / 52.139°N 4.162°W / 52.139; -4.162

Cribyn, Ceredigion
Cribyn, Ceredigion.jpg
Pont fechan dros Nant Fudr-fach, Cribyn, Ceredigion
Cribyn is located in Ceredigion
Cribyn

Cribyn Ceredigion
Cyfeirnod grid yr AO SN521511
    - Caerdydd 90 mi (140 km) D-Dd 
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Llambed
Rhanbarth cod post SA48
Cod deialu 01570
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cribyn, a leolir tua 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan i'r de o bentrefi Troed-y-rhiw, Mydroilyn a Dihewyd.

Gorwedd Cribyn ar lan Afon Granell, un o ledneintiau Afon Teifi, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Capel Sant Silin a Llanwnen.

Sefydlwyd un o'r ychydig gapeli Undodaidd yng Ngheredigion yn y pentref yn 1790 gan Dafydd Davis Castellhywel ac Evan Davies, Cwmbedw.

Sefydlwyd ysgol gynradd Cribyn gan Gwilym Butler-Wilkins yn 1876. Heddiw mae'n ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg.

Enwogion[golygu]

Ganwyd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) yn ffermdy Maes Mynach, ar lan yr afon Granell ger Cribyn, ym 1792. Ceir cyfeiriadau at yr ardal mewn rhai o'i gerddi.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.