Llechryd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr hen bont ar afon Teifi, Llechryd

Pentref yn Nyffryn Teifi, Ceredigion yw Llechryd, a leolir tua 3 milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Aberteifi.

Yr hen eglwys yn Maenordeifi, 1885. Allan o Gasgliad John Thomas (ffotograffydd).

Saif y pentref ar lan ogleddol afon Teifi ar lôn yr A484 rhwng Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Ceir pont ar afon Teifi yn y pentref sy'n dwyn y ffordd i Gilgerran ac Abercuch ar y lan ddeheuol.

Llai na milltir i'r dwyrain o Lechryd ceir safle hen blas Maenordeifi (Manordeifi). Glanarberth yw'r enw ar ran o'r pentref, sy'n dwyn cysylltiad ag Arberth (safle llys Pwyll yng nghainc gyntaf y Mabinogi).

[golygu] Pobl o Lechryd

[golygu] Gweler hefyd


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill