Tal-y-bont, Ceredigion
Cyfesurynnau: 52°28′49″N 3°58′46″W / 52.480272°N 3.979430°W
| Tal-y-bont, Ceredigion | |
Tal-y-bont and beyond, looking across to the Dovey estuary. |
|
|
|
|
| Cyfeirnod grid yr AO | SN6589 |
|---|---|
| - Caerdydd | 90 mi (140 km) SE |
| Prif ardal | Ceredigion |
| Sir seremonïol | Dyfed |
| Gwlad | Wales |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | TALYBONT |
| Rhanbarth cod post | SY24 |
| Cod deialu | 01970 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | |
| Senedd y DU | Ceredigion |
| Cynulliad Cymru | Ceredigion |
| Rhestr llefydd: Y Deyrnas Unedig | |
Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned Ceulan-a-Maesmor.
Saif ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m). Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19eg ganrif ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhanfwyaf o'r rhain.
Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Mae Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd yn swyddogol ar 6 Awst 1924,[1] ni chaniateir yfed alcohol yn yr adeilad hwn. Cynhelir Ffair y Neuadd yn flynyddol ar ddiwedd pob mis Tachwedd.
Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal a siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, a credwyd y byddai'r siop yn anhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[2] Datganwyd ym mis Awst 2009 i'r swyddfa gael ei hachub wedi cryn ymgyrchu.[3]
Mae dwy dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du yn flynyddol hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symud i'r wlad a rhedeg tafarn. Erbyn 2007, roedd y Llew Du a'r Llew Gwyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[4]
Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont yng ngogledd y pentref, mae'n ysgol Gymraeg sydd â tua 100 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Mae hefyd ysgol feithrin rhan amser sy'n cymryd plant iau, a chylch Ti a Fi pob prynhawn dydd Gwener.[5]
Mae gan y bentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a changen Plaid Cymru.
Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.
Pobl o Dal-y-bont [golygu]
- James Spinther James (1837-1914), hanesydd, llenor ac emynydd.
- J. J. Williams (bardd)
- Ruth Jên, arlunydd a baentiodd murlun adnabyddus y Lolfa.
- Mihangel Morgan, nofelydd
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Welsh Gazette, 7 Awst 1924
- ↑ Y Siop, Hydref 2007
- ↑ Post: Achub cangen?. Newyddion BBC (17 Awst 2009).
- ↑ Y Llew Du. Papur Pawb (Hydref 2007).
- ↑ Mudiad Ysgolion Meithrin.
Dolenni allanol [golygu]
Aberaeron · Aberarth · Aber-banc · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaenporth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfriog · Llandysul · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiwllan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-Garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pont-Siân · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen