Mihangel Morgan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mihangel Morgan
Ganwyd 7 Rhagfyr, 1955
Trecynon, Rhondda Cynon Taf, Baner Cymru Cymru
Yn enwog am Pan Oeddwn Fachgen, Dirgel Ddyn, Dan Gadarn Goncrit
Galwedigaeth Darlithydd, nofelydd, bardd

Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955, Trecynon) yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi.[1] Bu'n geinlythrennydd (caligrapher) yn Rhuthun, Sir Ddinbych ar ddechrau'r 80au ac mae bellach yn byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.

Daw'n wreiddiol o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddyn hoyw sy'n gwbl agored am ei rywioldeb.[2] Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn graddio. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Diflaniad Fy Fi : cerddi, 1988, Cyhoeddiadau Barddas
  • Beth yw Rhif Ffôn Duw? : cerddi, 1991, Cyhoeddiadau Barddas
  • Hen Lwybr a Storïau Eraill : straeon byrion, 1992, Gwasg Gomer
  • Dirgel Ddyn : nofel, 1993, Gwasg Gomer; ail-argraffiad 2006, Y Lolfa
  • Saith Pechod Marwol : straeon byrion, 1993, Y Lolfa
  • Te gyda'r Frenhines : straeon byrion, 1994, Gwasg Gomer
  • Tair Ochr y Geiniog : straeon byrion, 1996, Gwasg Gomer
  • Llên y Llenor: Jane Edwards : astudiaeth academig, 1997, Gwasg Pantycelyn
  • Melog : nofel, 1997, Gwasg Gomer
  • Darllen Ffilmiau : astudiaeth academig, 1998, Prifysgol Cymru Aberystwyth
  • Dan Gadarn Goncrit : nofel, 1999, Y Lolfa
  • Y Corff yn y Parc a Storïau Ffeithiol Eraill : straeon byrion, 1999, Gwasg Carreg Gwalch
  • Caradog Prichard : astudiaeth academig, 2000, Gwasg Pantycelyn
  • Cathod a Chŵn : straeon byrion, 2000, Y Lolfa
  • Nofelau Nawr: Modrybedd Afradlon : stori fer, 2000, Gwasg Gomer
  • Creision Hud (gyda Jo Feldwick) : cerddi i blant, 2001, Y Lolfa
  • Y Ddynes Ddirgel : nofel, 2001, Y Lolfa
  • Pan Oeddwn Fachgen : nofel, 2002, Y Lolfa
  • Croniclau Pentre Simon : nofel, 2003, Y Lolfa
  • Digon o Fwydod : cerdi i blant, 2005, Cyhoeddiadau Barddas
  • Cestyll yn y Cymylau : nofel, 2007, Y Lolfa
  • Pantglas : nofel, 2011, Y Lolfa

Gwobrau ac anrhydeddau [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Elfed Davies: "1799 Carmel Eglwys Presbyteraidd Cymru Trecynon 1996" (Pink Panther Digital Solutions)
  2. "Merch mewn corff bachgen", Adolygiad y BBC o "Pan Oeddwn Fachgen." Adalwyd ar 30-07-2009.

Dolenni allanol [golygu]