Ystrad Meurig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°17′34″N 3°53′56″W / 52.292774°N 3.898910°W / 52.292774; -3.898910

Ystrad Meurig
Ystrad Meurig.jpg
Ystrad Meurig is located in Ceredigion
Ystrad Meurig

 Ystrad Meurig yn: Y Deyrnas Unedig
Cyfeirnod grid yr AO SN706675
    - Caerdydd 90 mi (140 km) SE 
Prif ardal Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Wales
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost YSTRAD MEURIG
Rhanbarth cod post SY25
Cod deialu 01974
Yr Heddlu  
Tân  
Ambiwlans  
Senedd yr Undeb Ewropeaidd
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: Y Deyrnas Unedig
Eglwys Ystrad Meurig.
Afon Meurig, sy'n rhoi ei henw i Ystrad Meurig.

Pentref bychan a phlwyf uwchben Dyffryn Teifi yng Ngheredigion yw Ystrad Meurig (neu Ystradmeurig). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng Pontrhydfendigaid i'r dwyrain a Lledrod i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Saif y pentref ger tro ar Afon Teifi filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger Cors Caron. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion castell Ystrad Meurig a godwyd gan Gilbert de Clare ym 1116. Llosgwyd y castell mwnt a beili hwnnw gan meibion Gruffudd ap Cynan yn 1137; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnol yn 1199.[1] Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.[2]

Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer fechan.

Ganwyd y bardd ac ysgolhaig Edward Richard yno ym mis Mawrth 1714. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o 1734 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion Lewis Morris, mab William Williams Pantycelyn ac Ieuan Fardd.

Cyfeiriadau [golygu]

Ffynonellau [golygu]

  • Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Llanrwst, 1991)
  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)