Beulah, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Beulah (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yng Ngheredigion sy'n gorwedd hanner ffordd rhwng tref Castell Newydd Emlyn a phentref glan-môr Aberporth ar Fae Ceredigion.

Mae ardal Cyngor Cymuned Beulah yn cynnwys pentrefi Bryngwyn, Llandygwydd, Betws Ifan, Cwm Cou a'r rhan fwyaf o bentref Cenarth ar lannau afon Teifi ac yn gartref i dros 1,500 o bobl (1,586, Cyfrifiad 2001), 54% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, gyda 45% o'r boblogaeth wedi eu geni y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2001). O blith y trigolion sydd yn enedigol o Gymru, mae bron i 90% yn Gymry Cymraeg (cyfeiriad yn eisiau), felly mae'r cyferbyniad diwylliannol ac ieithyddol rhwng y brodorion a'r mewnfudwyr yn amlwg iawn.

[golygu] Mannau o ddiddordeb

Mae'r ardal Cyngor Cymuned yn cynnwys melin ddŵr Felin Geri yng nghwm coediog y Ceri, a rhaeadrau Cenarth.


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill