Rhydowen, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Rhydowen. Gorwedd ar yr A475 rhwng Pren-gwyn a Cwmsychbant, tua 7 milltir i'r gorllewin o Llanbedr Pont Steffan. Llifa Afon Cletwr heibio i'r pentref.

Mae gan y pentref boblogaeth o 347, gyda tua 200 ohonynt yn medru'r Gymraeg.

Gerllaw mae capel Llwynrhydowen, lle treuliodd David Davis (Dafis Castellhywel) gyfnod yn gweinyddu yn y 18fed ganrif.