David Davis (Dafis Castellhywel)
Addysgwr, pregethwr a bardd o Geredigion oedd David Davis (14 Chwefror 1745 – 3 Gorffennaf 1827), a adnabyddir fel Dafis Castellhywel (neu Dafis Castell Hywel). Roedd yn fawr ei barch a'i boblogrwydd tua diwedd yr 18fed ganrif a dechrau'r ganrif olynol.
Ganed Dafis yn y Goetre Isaf ym mhlwyf Llangybi, ger Llanbedr Pont Steffan yn 1745, yr hynaf o saith o blant. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac yn yr Academi yno. Daeth dan ddylanwad Joseph Jenkins, prifathro'r Academi, a arddelai Undodiaeth. Ond nid aeth Dafis yn Undodiad ond yn hytrach arddelodd Ariadaeth.
Ymsefydlodd fel gweinidog ym mhlwyf Ciliau Aeron. Yn nes ymlaen symudodd i ardal Castellhywel, i weinyddu yn Llwynrhydowen a mannau eraill yn y cylch, yn cynnwys Alltyblaca. Agorodd ei ysgol enwog yng Nghastellhywel tua 1782; cafodd nifer o bobl o deuluoedd blaenllaw addysg glasurol yno: daethwyd i'w hadnabod fel "Athen Ceredigion".
Cyhoeddwyd detholiad o waith barddol David Dafis yn 1824, dan yr enw Telyn Dewi. Roedd yn englynwr medrus. Mae ei gerddi yn cynnwys awdl i ddathlu'r Chwyldro Ffrengig.
Cyfeiriadau [golygu]
- J. J. Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937)
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Wrecsam, 1922)