John Jones (Jac Glan-y-gors)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jac Glan-y-gors

Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol oedd John Jones (Jac Glan-y-gors) (10 Tachwedd, 1766 - 21 Mai, 1821), a anwyd yng Ngherrigydrudion, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy).

Ei fywyd[golygu]

Ganwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurance (sic) Jones. Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm teuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (Ysgol Rad Llanrwst) am gyfnod.

Symudodd i Lundain yn 1789 i weithio mewn siop yn y dref honno. Yn ôl un ffynhonnell, ffoi o ffordd gwŷr y gyfraith wnaeth o, wedi gwrthod ymuno â'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad o du Ffrainc, a bygwth torri tŷ'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn 1793 roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms, Southwark. Yn 1818 cymerodd denantiaeth y King's Head yn Stryd Ludgate a bu farw yno yn 1821.

Cymdeithasau llenyddol Llundain[golygu]

Yn Llundain daeth yn aelod blaengar o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1790, yn yr un flwyddyn â Twm o'r Nant ac Edward Charles. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef hefyd oedd un o gychwynwyr Y Greal, ar ran y Gymdeithas honno.

Ei waith llenyddol[golygu]

Yn ôl traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a chymdogion; "cerddi achlysurol".

Cyflwynodd syniadau radicalaidd Thomas Paine i'r Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a gefnogai syniadau'r Chwyldro Ffrengig.

Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan gynnwys Hanes offeiriad wedi meddwi (Person Sir Aberteifi), Yr hen amser gynt (addasiad o Auld Lang Syne) a Cerdd Dic Siôn Dafydd sy'n dychanu Cymry Llundain am droi eu cefn ar yr iaith Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan Hugh Evans.
  • Richard Griffith (gol.), Gwaith Glan y Gors (Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng Nghyfres y Fil gyda rhagymadrodd gan Carneddog.