Richard Price
Yr oedd Richard Price (23 Chwefror, 1723 - 19 Ebrill, 1791), yn athronydd ac yn awdwr.
Cafodd ei eni ym Morgannwg. Ar wahân i'w bwysigrwydd fel athronydd moeseg, ac ym myd actiwariaeth, dylanwadodd ar y Chwyldro Americanaidd, gan gysylltu yn aml gyda Benjamin Franklin, Adams a Thomas Jefferson. Dylanwadodd hefyd ar Gyfansoddiad America. O ddiddordeb i Gymry mae'r ffaith ei fod yn gefnder gyntaf i Ann Madocs, y "Ferch o Gefnydfa". Roedd yn gryf ei syniadau dros hawliau merched a dylanwadodd ar y ffeminist Mary Wollstonecraft, a ddatblygodd ei syniadau ef ar 'egalitariaeth' Ffrengig.
Cyhoeddodd lawer ym myd ystadegau ac arian hefyd a chafodd ei dderbyn gan Y Gymdeithas Frenhinol oherwydd y cyfraniadau hyn. Roedd yn ffrind i'r mathemategydd Thomas Bayes. Golygodd ei waith enwocaf, sef "Essay towards solving a problem in the doctrine of chances" sy'n cynnwys Theori Bayes un o theoriau pwysicaf a sgwennwyd ar debygolrwydd. Roedd ei gyflwyniad i'r gyfrol yn cynnwys rhan o gonglfeini'r theori hwn ar ystadegau Bayesaidd.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Review of the Principal Questions in Morals (1757)
- Appeal to the Public on the Subject of the National Debt (1772)
- Observations on Civil Liberty and the Justice and Policy of the War with America (1776)
- Essay on the Population of England
- Observations on the importance of the American Revolution and the means of rendering it a benefit to the World (1784)