Llangeinwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Llangeinwyr (Seisnigiad: Llangeinor). Saif yn y Cymoedd tua 5 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr ei hun.

Rhed ffordd yr A4064 trwy'r pentref; i'r de mae'n arwain i gyfeiriad Tondu, ac i'r gogledd i gyfeiriad Pontycymer. Mae'r A4093 yn cychwyn yn Llangeinwyr ac yn dringo dros y mynydd i Gwm Ogwr.

Roedd y bardd ac achyddwr Dafydd Benwyn (bl. ail hanner yr 16eg ganrif) yn frodor o Langeinwyr, yn ôl pob tebyg.

Cyhoeddwyd y pentref cyfan yn ardal gadwraeth yn ddiweddar.[1]

Cyfeiriadau[golygu]


CymruPenybont.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato