Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion Castell Newydd

Castell Normanaidd yn ne Cymru yw'r Castell Newydd, a godwyd ar fryncyn uwchlaw Pen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru. I'r Gogledd-orllewin, roedd arglwyddiaeth Gymreig Afan ac un o'r rhesymau dros godi'r castell oedd gwarchod y ffin a cheisio rheoli arglwyddi Afan. Adeilion sydd yno, bellach.

Codwyd y castell yn 1106 gan y barwn Normanaidd Robert Fitzhamon ar ran William de Londres a'r castell hwn yw'r fan mwyaf gorllewinol yn ei ymgais i oresgyn De Cymru. Mae'n un o dri chastell yn yr ardal yr adeg hon ynghyd a Chastel Coety a Chastell Ogwr. Yn 1189 trosglwyddwyd perchnogaeth y castell i Morgan ap Caradog ac yna yn c1208, i'w fab Lleison.[1] Ar farwolaeth Lleision (tua 1214) trosglwyddwyd y castell i feddiant Isabel, gwraig cyntaf Brenin Ioan o Loegr.[2] Yn 1217 aeth i ddwylo Gilbert Fitz Richard ac yn yr un flwyddyn fe'i trosgwyddwyd i Gilbert de Turberville.

Dros y canrifoedd, bu perchnogaeth y castell yn nwylo'r teuluoedd Berkerolle, Gamage ac yna fe'i prynnwyd gan Samuel Edwin o "Lanmihangel Place" ac yna'n rhan o Ystâd Dunraven.

Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Morgan ap Caradog ap Iestyn". llgc.org.uk. http://wbo.llgc.org.uk/en/s-MORG-APC-1208.html. Adalwyd 27 Hydref 2012. 
  2. Salter (2002), tud.88