Y Normaniaid yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Penfro, un o gadarnleoedd y Normaniaid yng Nghymru

O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd Gwilym Goncwerwr Loegr a meddianu coron y deyrnas honno yn 1066 ar ôl ennill Brwydr Hastings. Sefydlodd iarllaethau yng Nghaer (iarllaeth Caer, Amwythig (iarllaeth Amwythig) a Henffordd (iarllaeth Henffordd). Brwydrodd yr ieirll hyn yn erbyn y Cymry, gan ehangu eu tir ac adeiladu cestyll. O ganlyniad daeth brenhiniaeth Gwent i ben ym 1086 ac aeth tiriogaeth teyrnas Gwynedd yn llai a llai.

Serch hynny, cafodd rhai o arweinwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin newydd: Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth ac Iestyn ap Gwrgant ym Morgannwg, ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i Wilym farw ym 1087. Cipiwyd Morgannwg a Brycheiniog ac aeth Roger o Montgomery, iarll Amwythig, i dde Dyfed lle cododd gastell Penfro.

Bu Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. yn llwyddiannus am gyfnod yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yr un fath Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth.

Gweler hefyd[golygu]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.