Ariadaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurf ar Gristnogaeth a ddaeth yn boblogaidd yn Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain o'r drydedd ganrif OC ymlaen oedd Ariadaeth (neu Ariaeth). Fe'i dyfeisiwyd gan Arius (256-336 OC), offeiriad oedd yn gweithio yn Alecsandria yn yr Aifft. Doedd Ariadaeth ddim yn derbyn bod y Tad a Christ o'r un sylwedd. Yn ôl Arius, roedd Iesu Grist, er ei fod yn dduwiol, yn israddol i'r Tad gan iddo gael ei greu ganddo.

Daeth Ariadaeth yn ddadleuol iawn yn yr Eglwys Fore, ac fe'i condemniwyd fel heresi yng Nghyngor Cyntaf Nicea yn 325. Ni ddaeth hyn â'r ddadl i ben, o achos poblogaeth Ariadaeth yn Ymerodraeth Caergystennin a'r gefnogaeth a gafodd gan ymerodron diweddarach Caergystennin fel Constantius II a Valens. Fe wnaeth Ariadaeth golli tir ar ôl Cyngor Cyntaf Caergystennin o dan yr Ymerawdr Theodosius yn 381, ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd Germanaidd cynnar, yn enwedig gan y Gothiaid.

Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.