Llangybi, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llangybi (Ceredigion))
Llangybi
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth653 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,850.99 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1592°N 4.0359°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000384 Edit this on Wikidata
Cod OSSN578478 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llangybi (gwahaniaethu).

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne Ceredigion yw Llangybi. Saif ar ffordd yr A485 rhwng Tregaron i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de, milltir a hanner o bentref Betws Bledrws.

Llifa Afon Dulas heibio i'r pentref i ymuno yn afon Teifi ger Llambed.

Mae Llangybi yn un o dri phentref yng Nghymru sy'n dwyn enw Sant Cybi (6g?). Byddai cleifion yn ymolchi yn Ffynnon Gybi ger yr eglwys a chysgu dan gromlech Llech Gybi gerllaw. Roedd y ffynnon yn ymarllwys i bwll gyda seddau o'i gwmpas.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Ffynnon Wen[golygu | golygu cod]

Ffynnon Wen

Saif Ffynnon Wen (neu Ffynnon Gybi) 460 metr o'r eglwys, yn ne-orllewin y pentref (Cyfeirnod yr Arolwg Ordnans.[4] Credid ers talwm fod ei dŵr yn iacháu sgyrfi a gwynegon yn ogystal ag anhwylder yn y breichiau, coesau a'r llygaid.[5] Yn niwedd y 18g ysgrifennodd Edward Llwyd 'Mae'r trigolion yn dod at ei gilydd pob Difiau Dyrchafael, er mwyn ymolchi yn Ffynnon Gybi cyn cerdded draw i gromlech Llech Gybi sydd o fewn saethiad saeth o'r ffynnon. Yno, fe roddir y cleifion o dan y garreg, ac os daw cwsg - daw gwellhâd, os na ddaw cwsg - marwolaeth.'

Ar un cyfnos roedd iddo do a baddon i ddal y dŵr gyda llefydd eistedd o amgylch ei ymylon. Yn 1913 roedd mewn cyflwr lled dda.[6]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangybi, Ceredigion (pob oed) (653)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangybi, Ceredigion) (356)
  
55.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangybi, Ceredigion) (374)
  
57.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangybi, Ceredigion) (101)
  
35.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), d.g. Cybi.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; Cox, A.D.H. Haunted Britain, Hutchinson, 1973, tud. 148 979kb Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Ionawr 2015
  5. Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; Archifwyd 2021-06-20 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Ionawr 2015
  6. Coflein; adalwyd 23 Ionawr 2015
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]