Lledrod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Pantglas, Lledrod.

Pentref a phlwyf yng nghanolbarth Ceredigion yw Lledrod, hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Thregaron. Mae 707 o bobl yn byw yn ardal cymuned Lledrod, 62% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Ffair Lledrod [golygu]

Yr oedd ffair flynyddol Lledrod yn un o'r bwysicaf yng nghanolbarth Ceredigion. Fe'i cynhelid ar 7 Hydref. Ceir cyfeiriadau ati yn yr hen almanaciau mor gynnar â 1776. Gwerthai ffermwyr yr ardal eu gwartheg yn y ffair, a chawsent eu gyrru oddi yno i Dregaron i'r porthmyn eu gyrru i farchnadoedd Lloegr. Dirwynodd y ffair i ben ar ddechrau'r 20fed ganrif.[1]

Pobl o Ledrod [golygu]

Ym mhlwyf Lledrod y ganed Evan Evans (Ieuan Fardd) (1731-1788).

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Evan Jones, Cerdded Hen Ffeiriau (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1972).


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato