Porthmon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gyrrwyr, neu borthmyn oddutu 1885 yn Nhrefaldwyn.
Papur £2 Banc y Ddafad Ddu

Defnyddir y gair Porthmon am rywun sy'n gyrru anifeiliaid dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y 18fed ganrif yn arbennig. Gwartheg oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai defaid a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.

Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru gwartheg o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r 14eg ganrif, ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y 18fed ganrif. Llundain oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd Smithfield ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.

Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri gan borthmon o'r enw David Jones yn 1799. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn 1909. Sefydlwyd Banc y Ddafad Ddu gan borthmyn defaid Tregaron ac Aberystwyth yn gynnar yn y 19eg ganrif.

Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y 19eg ganrif, oherwydd datblygiad y rheilffyrdd a rhesymau eraill. Yr unig olion bellach yw'r ffyrdd porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.

Ffyrdd y porthmyn yng Nghymru[golygu]

Roedd rhwydwaith o lwybrau yn cael eu defnyddio gan y porthmyn yng Nghymru i gael yr eidionau i'r farchnad. Er mwyn osgoi talu tollau ar y ffyrdd tyrpeg byddai'r porthmyn yn dilyn hen lwybrau dros wlad. Pedolid y gwartheg cyn cychwyn a byddai rhaid eu pedoli eto sawl gwaith cyn diwedd y daith. Tua ugain milltir oedd y pellter arferol mewn diwrnod i'r gyrroedd.

Roedd un o'r llwybrau yn cychwyn ym Môn. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i Borthaethwy, a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Yng nghyffiniau Bangor deuai porthmyn eraill â gwartheg o Arfon a rhannau o Lŷn. Aent a'r eidionau i fyny mewn gyrroedd mawr trwy Nant Ffrancon (ar yr hen lôn sydd yno ar ochr orllewinol y cwm o hyd), i Gapel Curig, ac yna ymlaen i Lanrwst, dros Fynydd Hiraethog i Abergele (fu'n ganolfan bwysig i'r porthmyn), i fyny Dyffryn Clwyd ac yna i Landegla. Mae Llandegla yn bentref bychan tawel heddiw, ond bu'n fan cyfarfod pwysig ar lwybrau porthmyn y gogledd. O Landegla gyrrid y gwartheg naill ai i Langollen (llecyn pwysig arall lle ymunai gyrroedd o Feirion a'r cylch) neu i Wrecsam, ac oddi yno i Loegr ac i lawr am Lundain, gan amlaf. Yng Ngheredigion, roedd llwybrau o Dregaron a Llanddewi Brefi tros y mynydd i Abergwesyn. Roedd yna lwybrau tebyg o bob rhan o orllewin Cymru, gyda'r rhai pwysicaf yn cychwyn o Feirionnydd a Sir Gâr.

Gweler hefyd[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Elias, Twm Y porthmyn Cymreig (Cyfres Llyfrau llafar gwlad 3, Gwasg Carreg Gwalch, 1987)
  • Richards, Emlyn Porthmyn Môn (Gwasg Pantycelyn, 1998) ISBN 1874786763
  • R. T. Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1932). Pennod XI: Y Porthmyn.
  • Moore-Colyer, Richard Welsh Cattle Drovers (Landmark, 2002) ISBN 1-84306-021-3
  • Toulson, Shirley The drovers (Shire albums 45, Shire Publications, 1980) ISBN 0852635052
  • Toulson, Shirley The drovers' roads of Wales (Wildwood House, 1977) ISBN 0704502518