Ffair Llannerch-y-medd

Oddi ar Wicipedia
Ffair Llannerch-y-medd
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Ffair Llannerch-y-medd yn ei hanterth

Ffair amaethyddol fawr yn Llannerch-y-medd ar Ynys Môn oedd Ffair Llannerch-y-medd, a denai gwerthwyr a phrynwyr o bob rhan o'r ynys, yn enwedig porthmyn gwartheg a phrynwyr ceffylau.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir y cyfeiriadau cynharaf at ffair yn Llannerch-y-medd mewn cofnodion o'r 16g; dim ond tri lle arall ar yr ynys a awdurdodwyd i gynnal ffeiriau, sef Aberffraw a bwrdeistrefi Biwmares a Niwbwrch. Yn y ganrif ddilynol dim ond yn y pedwar lle hyn y cynhelid ffeiriau. Erbyn y flwyddyn 1683, cawn almanac yn hysbysu bod chwe ffair y flwyddyn yn Llannerch-y-medd a nodir mai ffeiriau ceffylau oedd dwy o'r rheiny. Yn ogystal roedd marchnad wythnosol yn y pentref o'r flwyddyn 1658 ymlaen, os nad cynt.[1]

Parhaodd ffeiriau a marchnad Llannerch-y-medd drwy'r 18g. Erbyn y 19g Ffair Llannerch-y-medd oedd y bwysicaf ym Môn; yn 1870 cynhelid ffeiriau yno 14 o weithiau y flwyddyn. Cyrhaeddodd y ffair ei hanterth yn hanner olaf y 19g.[1]

Dyrnod i'r ffair hon a ffeiriau traddodiadol eraill yr ynys a gweddill Cymru hefyd oedd y Rhyfel Byd Cyntaf; erbyn diwedd y rhyfel roedd y Ffair wedi darfod.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Dafydd Wyn William, 'Ffair, Marchnad a Phorthmyn', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]