Gyrru gwartheg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arferid gyrru gwartheg o wahanol rannau o Gymru yn y 17 a'r 18ed ganrif i diroedd breision megis Caint i'w pesgi ar gyfer marchnadoedd Llundain.[1] Neu'r porthmon i roi'r enw cywir. Roedd y daith yn faith a chymerai wythnosau lawer i'w cherdded. Roedd lleoedd priodol ar y ffordd i aros nos a throi'r gwartheg i bori e.e. yn Rhewl ger Rhuthun ceir tafarn y "Drovers".

Gan fod carnau gwartheg yn llawer meddalach na charnau ceffyl, roedd hi'n hynod bwysig eu pedoli cyn cychwyn ar y daith. Roedd dwy ran i'r bedol gan fod ewin buwch wedi'i hollti.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.