Penrhyn Llŷn
- Gweler hefyd Llŷn (gwahaniaethu) a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae Penrhyn Llŷn yn ymestyn fel braich allan i'r môr tua gogledd Bae Ceredigion. Mae'n rhan o Wynedd yng ngogledd orllewin Cymru. Y prif drefi yw Aberdaron, Abersoch, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Creadigaeth bur diweddar yw'r term ei hun.
Mae'r penrhyn yn cael ei adnabod fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ceir nifer o draethau braf, yn arbennig ar yr arfordir deheuol, baeau creigiog ar hyd arfordir y gogledd, a bryniau gosgeiddig fel Yr Eifl a Carn Fadryn.
Er gwaethaf mewnlifiad o siaradwyr Saesneg i leoedd fel Abersoch, erys Llŷn yn un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Gymraeg.
Cynnwys |
Geirdarddiad [golygu]
Daw'r enw Llŷn o Laigin, brenhinllin Leinster/Laighin a sefydlodd gwladfa Wyddelig yng Ngogledd Cymru yn ystod Oes Gristnogol Gynnar Iwerddon (tua 400–800).[1]
copaon [golygu]
|
|
|||
|---|---|---|---|
| Enw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
| Bwlch Mawr, Penrhyn Llŷn | SH426478 | map | 53.004°N, 4.347°W |
| Bwrdd Arthur, Ynys Môn | SH585812 | map | 53.308°N, 4.125°W |
| Carn Fadryn, Penrhyn Llŷn | SH278351 | map | 52.885°N, 4.56°W |
| Carneddol, Penrhyn Llŷn | SH301331 | map | 52.868°N, 4.525°W |
| Garn Boduan, Penrhyn Llŷn | SH312393 | map | 52.924°N, 4.512°W |
| Gwylwyr Carreglefain, Penrhyn Llŷn | SH324410 | map | 52.94°N, 4.495°W |
| Gyrn Ddu, Penrhyn Llŷn | SH401467 | map | 52.993°N, 4.383°W |
| Mynydd Twr, Holy Island (Ynys Môn) | SH218829 | map | 53.312°N, 4.676°W |
| Moel-y-gest, Penrhyn Llŷn | SH549388 | map | 52.926°N, 4.159°W |
| Mynydd Anelog, Penrhyn Llŷn | SH151272 | map | 52.81°N, 4.744°W |
| Mynydd Bodafon, Ynys Môn | SH472854 | map | 53.343°N, 4.296°W |
| Mynydd Carnguwch, Penrhyn Llŷn | SH374429 | map | 52.958°N, 4.422°W |
| Mynydd Cennin, Penrhyn Llŷn | SH458449 | map | 52.979°N, 4.298°W |
| Mynydd Cilan, Penrhyn Llŷn | SH288241 | map | 52.787°N, 4.54°W |
| Mynydd Eilian, Ynys Môn | SH472917 | map | 53.399°N, 4.299°W |
| Mynydd Enlli, Ynys Enlli | SH122218 | map | 52.761°N, 4.784°W |
| Mynydd Rhiw, Penrhyn Llŷn | SH228293 | map | 52.832°N, 4.631°W |
| Mynydd y Garn, Ynys Môn | SH314906 | map | 53.385°N, 4.536°W |
| Yr Eifl, Penrhyn Llŷn | SH364447 | map | 52.974°N, 4.437°W |
Gweler hefyd [golygu]
- Llŷn - y cantref hanesyddol; Pen Llŷn
- Eifionydd - cwmwd ac ardal hanesyddol; rhan dde-ddwyreiniol y penrhyn
- Llwybr Arfordir Llŷn
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ó Corráin (1989), t. 6.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Ó Corráin, D. "Prehistoric and Early Christian Ireland" yn The Oxford History of Ireland, golygwyd gan R. F. Foster (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1989).
- Ioan Mai Evans, Gwlad Llŷn (Llandybie, 1968)
|
|
|
|---|---|
|
Bryniau Clwyd • Dyffryn Gwy • Penrhyn Gŵyr • Penrhyn Llŷn • Ynys Môn |