Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001
Cynhalwyd cyfrifiad o bob rhan o'r DU, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2001, ar ddydd Sul 29 Ebrill 2001. Hwn oedd y 19fed gyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd Cyfrifiad 2001 gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau.
Cynnwys |
Ffrae'r blwch cenedligrwydd [golygu]
Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd y Cyfrifiad yn cynnwys blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig.[1] Gwrthodai sawl person lenwi'r ffurfleni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel "Prydeinwyr", er i'r awdurdodau fygwth dwyn y gyfraith ar unrhyw un a wnai hynny. Gan fod rhai miloedd, o leiaf, wedi gwrthod, ni chafwyd achosion llys yn erbyn y rhai a oedd yn gwrthod. Yn ogystal â'r rhai a wrthododd yn llwyr, penderfynodd nifer [15.7%] o'r boblogaeth ysgrifennu "Cymro" yn lle ticio'r blwch yn nodi "Prydeinwr(aig) gwyn" neu anwybyddu'r cwestiwn.[2] Roedd 3,700 wedi glynu sticer dros y cwestiwn.
Ffrae'r iaith Gymraeg [golygu]
Yr oedd nifer o bobl yn anniddig efo penderfyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio cynnwys cwestiwn am y gallu i siarad neu ddeall yr iaith Gymraeg ar y ffuflenni yn rhannau eraill o'r DU. Roedd academyddion a haneswyr yn awyddus i gael gwybod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a mannau eraill, ond gwrthodwyd eu cais fel un "anymarferol".
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol; adalwyd 20 Ionawr 2013
- ↑ [1] Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]; adalwyd 19 Ionawr 2012
Dolenni Allanol [golygu]
- Gwefan Cyfrifiad 2001 (Lloegr a Chymru)
- Canlyniadau Cyfrifiad yr Alban 2001
- Cyfrifiad poblogaeth Gogledd Iwerddon
- The Census Order 2000 (Lloegr a Chymru)